DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynigion i ddatblygu Deddf ar ddehongli deddfwriaeth Cymru

DYDDIAD

6 Rhagfyr 2017

GAN

Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru

 

 

Mae'r rhan fwyaf o ddeddfwrfeydd ar draws y Gymanwlad wedi deddfu rheolau ar sut y dylid gweithredu eu deddfwriaeth a'i dehongli. Fodd bynnag, nid yw Cynulliad Cyffredinol Cymru (yn wahanol i bob un o ddeddfwrfeydd eraill y DU) wedi gwneud hynny hyd yma. Yn hytrach, mae deddfwriaeth Cymru yn cael ei dehongli yn unol â Deddf Ddehongli 1978, Deddf Senedd y Deyrnas Unedig (DU). Mae'r Ddeddf honno mewn bodolaeth ers bron i 40 mlynedd bellach, yn Saesneg yn unig (ac mae’n cynnwys diffiniadau sy'n gymwys ar draws y llyfr statud). Nid yw’r Ddeddf mor glir a hygyrch ag y gallai fod.

 

Argymhellodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol y dylai'r Llywodraeth ddatblygu Deddf ddehongli ar wahân, wedi’i theilwra’n benodol i Gymru, er mwyn sicrhau dealltwriaeth well o ddeddfwriaeth Cymru. Fel rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella hygyrchedd cyfraith Cymru, ac fel ymateb i argymhelliad y Pwyllgor, cyhoeddodd fy rhagflaenydd ymgynghoriad ar gynnig o'r fath yn gynharach eleni. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Medi ac rwy'n falch o gyhoeddi’r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw heddiw.

 

Derbyniwyd 17 o ymatebion o bob cwr o'r DU oddi wrth weithwyr cyfreithiol proffesiynol, y farnwriaeth, academyddion, unigolion a'r trydydd sector. Rwy'n ddiolchgar i bob un a anfonodd ymateb i'r ymgynghoriad ac a gyfrannodd mor hael i rannu eu gwybodaeth a'u profiad o'r fframwaith deddfwriaethol presennol. Rwy'n falch bod yr ymatebwyr yn cefnogi’r egwyddor o greu darpariaethau dehongli statudol dwyieithog, wedi'u teilwra'n benodol i Gymru.

 

Mae'r ymatebion wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i nodi'r meysydd lle bydd yn bwysig cynnal rhywfaint o gysondeb â'r trefniadau presennol. Maent hefyd yn tynnu sylw at y meysydd hynny lle y gallwn ni fanteisio ar gyfleoedd i arloesi, drwy wneud newidiadau a fydd yn adlewyrchu cyfansoddiad Cymru yn well. Yn unol â'm rhaglen ar gyfer gwella hygyrchedd cyfraith Cymru, rwy'n awyddus i roi sicrwydd ac eglurder i ddefnyddwyr deddfwriaeth Cymru fel bod modd iddynt gael mynediad ati a'i defnyddio'n gwbl hyderus.

 

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ffynhonnell werthfawr o safbwyntiau, gwybodaeth a syniadau a fydd yn gymorth ar gyfer datblygu darpariaethau dehongli statudol i Gymru. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith yn y maes hwn maes o law.

 

Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma:

 

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/dehongli-cyfreithiau-cymru-deddf-dehongli-i-gymru

 

https://consultations.gov.wales/consultations/interpreting-welsh-law-interpretation-act-wales